![]() |
|||||
Beth a PhamMae’r prosiect ymchwil pwysig hwn yn olrhain ymddangosiad a datblygiad gweithredoedd celf amserlinol (neo-avant-garade) yng Nghymru; gweithredoedd a ddaeth maes o law i gael eu diffinio gan un term hollgynhwysol fel ‘celf perfformio’. Dechreuir yr hanes yn 1965 pan gynhaliwyd yr ‘happening’ cyntaf yng Nghaerdydd, ac fe ddaw i ben yn 1979 pan ddechreuodd y term ‘celf perfformio’ gael ei ddisodli gan ‘gelf byw’; newid enw a ddynododd newid sylweddol yn estheteg, mynegiant a’r rhwydweithiau mewnol a oedd hyd hynny wedi diffinio’r sin celf perfformio. Mae geiriad isdeitl y prosiect yn fwriadol: astudiaeth yw hon o hanes cynnar celf perfformio yng Nghymru, nid astudiaeth o gelf berfformio Gymreig. Mae’r gwahaniaeth yn gynnil ond yn bwysig: ni fwriedir ceisio diffinio amlygiad lleol o arferiad celfyddydol a’i ystyried i fod yn wahanol i ddatblygiadau mewn mannau eraill (h.y. celf perfformio Gymreig). Yn hytrach, mae’r prosiect yn ceisio darganfod pa effaith gafodd rhai o’r datblygiadau mewn arbrofion artistig rhyngwladol mwyaf arwyddocaol yn ystod hanner olaf yr ugeinfed ganrif ar gyd-destun diwylliannol cymharol ffiniol, fel Cymru yn y 1960au a’r 1970au. Bydd y prosiect hefyd yn archwilio sut cafodd y datblygiadau hynny, yn eu tro, eu heffeithio gan yr un cyd-destun. Mae hyn yn caniatáu darlun mwy gwahaniaethol: yn hytrach na honni bod unrhyw benodolrwydd yn perthyn i’r cyd-destun o’r cychwyn, mae’n ein helpu olrhain tarddiad yr os, pryd, ble a sut y sefydlwyd rhinweddau penodol y ffurf. O ganlyniad, mae nifer o artistiaid ‘rhyngwladol’ adnabyddus a ddangosodd eu gwaith yng Nghymru - gan gynnwys Yoko Ono, Joseph Beuys a Jean-Jacques Lebel - yn ymddangos yn yr hanes ochr yn ochr ag artistiaid Cymreig (er nad oeddent o reidrwydd yn byw yng Nghymru) megis Ivor Davies, Paul Davies a Robert Conybear, yn ogystal ag artistiaid eraill a dreuliodd gyfnodau sylweddol o’u gyrfaoedd yng Nghymru, fel Marty St James, Shirley Cameron a Roland Miller. Y bwriad yw ceisio deall sut y cafodd dylanwadau mewnol ac allanol effaith ar ddatblygiad sin artistig penodol, ac i daflu goleuni ar y modd gwireddwyd celf perfformio fel symudiad artistig o gyrhaeddiad rhyngwladol mewn cyd-destun lleol penodol. Olrheinir y datblygiad hwn dros gyfnod o bymtheg mlynedd - o ddylanwad yr avant-garde yng nghanol y 1960au i ddatblygiad sin ‘Prydeinig’ adnabyddadwy a gwahanol yn y 1970au cynnar, hyd at ymddangosiad Cymreictod fel testun ym mherfformiadau yn y 1970au hwyr. Mae’r prosiect yn casglu cofnod mor gynhwysfawr ag sydd bosib o ddigwyddiadau a gynhaliwyd gan artistiaid Cymreig/lleol a rhyngwladol yng Nghymru rhwng 1965 a 1979. Er mwyn cwblhau hyn, mae wedi bod yn angenrheidiol ymchwilio i ddeunydd dogfennol sydd eisoes yn bodoli mewn archifau sefydliadol, yn ogystal â chronni deunydd sydd wedi eu gwasgaru trwy gasgliadau preifat cymdeithasau celf a’r artistiaid eu hunain. Yn ychwanegol i’r gwaith ymchwil hyn, mae’r prosiect hefyd wedi defnyddio dulliau traddodiad llafar i hel atgofion personol y rhai a chwaraeodd ran allweddol yn hanes datblygiad celf perfformio yng Nghymru yn ystod y cyfnod dan sylw. Ar gyfer ymchwilwyr eraill, mae’r prosiect yn cynnig cronfa ddata ar-lein o ddigwyddiadau celf perfformio yng Nghymru rhwng 1965 a 1979, sydd ar gael yn ddigost ac sy’n gwbl chwiladwy. Mae’r gronfa hefyd yn cynnwys mynegai o leoliadau presennol y dogfennau sydd o berthnasedd i bob digwyddiad; a bydd ystod eang o recordiadau sain hanes ar lafar a thrawsgrifiadau o’r cyfweliadau wedi’u dyddodi mewn archifau allweddol.- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - Cwestiynau Ymchwil
- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - Enyllydd o The David BradbyTaPRA Award for Research in International Theatre and Performance 2011. Am fwy o wybodaeth cliciwch yma. |