|

Paul Davies, Welsh Not, Eisteddfod Wrecsam1977
©Verena Davies
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw
wybodaeth am berfformio yng Nghymru a allai fod o ddefnydd i'r prosiect!
Efallai eich bod yn artist sydd wedi gwneud
gwaith perfformio yng Nghymru, neu'n aelod o gynulleidfa a welodd
berfformiad unwaith (o'ch gwirfodd neu'n anwirfoddol!). Pwy bynnag
ydych chi, hoffem glywed gennych.
Bydd unrhyw ddeunydd o ddiddordeb - o ddogfennau
gwreiddiol i atgofion amwys am ddigwyddiadau a welwyd o gornel y
llygad.
Mae'r manylion cyswllt wedi'u rhestru dan
'Cyswllt' yma, neu gallwch anfon e-bost i'r cyfeiriad hwn:mail@performance-wales.org
Cyfarwyddwr y Prosiect:
Dr Heike Roms, Prifysgol Aberystwyth
Cynorthwyydd Ymchwil:
Daniel Ladnar, MA
Grwp Llywio:
Professor André Stitt, Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd
Professor
Mike Pearson, Prifysgol Aberystwyth
Phil Babot, artist
Eddie Ladd, artist

André Stitt, Fi'n Dy Garu Di,
Eisteddfod Dinbych2001,
© André Stitt
|
Beth yw 'Performance' yn Gymraeg? - 40 mlynedd o 'Gelf Perfformio' yng Nghymru
Prosiect ymchwil i ddadorchuddio ac archifo hanes Celf Perfformio
yng Nghymru
Ni chofnodwyd hanes celf perfformio (performance
art) yng Nghymru eto. Dros gyfnod o bron i ddeugain mlynedd, bu
artistiaid yn y wlad hon yn creu celf perfformio, celf gweithredu
(action art) a chelf seiliedig ar amser (time-based art), ond ar
lafar y cofnodwyd eu gwaith yn bennaf - yn frith atgofion mewn hanesion,
sïon a sôn. Mor gynnar â 1968, yr oedd yr arlunydd
o Gymro Ivor Davies, hyrwyddwr y mudiad Destruction in Art,
yn cynnal digwyddiadau (happenings) ym Mhrifysgol Abertawe; daeth
Eisteddfod Genedlaethol 1977 yn Wrecsam yn ddrwgenwog am
ei rhaglen o berfformiadau rhyngwladol a oedd yn cynnwys Joseph
Beuys, Jannis Kounellis a Mario Merz ac ymyriadau byrfyfyr gan yr
arlunydd o Gymro Paul Davies; yn y 1990au, rhoddodd Cardiff Art
in Time lwyfan pwysig i waith perfformio rhyngwladol a lleol...
Yn aml, ofer fydd y chwilio am olion y digwyddiadau hyn yng nghofnodion
swyddogol hanes celf Cymru. Mae'n syndod nad oes unrhyw archifau
cyhoeddus ar gyfer celf perfformio yng Nghymru, dim llyfrau, dim
cyfnodolion - er gwaethaf y ffaith bod y math hwn o gelf yn hoff
o gofnodi pethau ar bapur a myfyrio'n ddamcaniaethol. Ac eto, mae
byd celf perfformio cyfoes y wlad hon ymhlith y mwyaf bywiog yn
y DU.
Mae Beth yw 'Performance' yn Gymraeg? yn
brosiect ymchwil mawr sydd wedi ymroi i ddadorchuddio ac archifo
hanes Celf Perfformio yng Nghymru. Dyma ddiffiniad o'r meysydd sydd
o ddiddordeb i'r cynllun:
- gwaith perfformio o fewn ffiniau daearyddol
Cymru, gan gynnwys perfformiadau yng Nghymru gan artistiaid
o'r tu allan i Gymru, ond gan hepgor perfformiadau oddi allan
i Gymru gan berfformwyr o Gymru, oni bai bod y perfformiadau hynny
o bwys mawr i ddatblygiad celf perfformio yng Nghymru. Y bwriad
yw mapio'r broses o greu 'maes' neu 'fyd' artistig ar sail dylanwadau
artistig, diwylliannol, cymdeithasol ac amgylcheddol mewnol ac
allanol penodol.
- celf a gwaith perfformio sydd wedi deillio
o'r maes hwn - celf fideo (video), sonig (sonic), amlgyfrwng
(multimedia), rhyngweithiol (interactive) a gosod (installation)-
os oes gan y gwaith nodweddion perfformiadol; celf byw (live art),
gan gynnwys peth theatr a dawns arbrofol os oes cysylltiad cryf
rhwng y gwaith hwn ac estheteg celf perfformio; a barddoniaeth
berfformio.
Yn fras, mae'r prosiect yn cwmpasu'r 40 mlynedd
ddiwethaf, o'r digwyddiadau cyntaf yng Nghymru ar ddiwedd y
1960au hyd heddiw.
Mae Beth yw 'Performance' yn Gymraeg? yn
defnyddio'r dulliau methodolegol isod:
- ymchwil maes i ddod o hyd i'r amrywiaeth
lawn a'r mathau o waith perfformio a wnaed yng Nghymru rhwng
1965 a 2008
- ymchwil damcaniaethol i edrych ar y materion
damcaniaethol allweddol o ran perfformiad a dogfennaeth a hanes
celf perfformio
- ymyriadau
curadurol ymarferol
Mae Beth yw 'Performance' yn Gymraeg? yn
edrych ar y themâu damcaniaethol allweddol isod:
- sut y gall perfformio, sydd yn gelfyddyd dros
dro gael ei ddogfennu a'i archifo?
- sut y ffurfir maes artistig o fewn cyd-destun
diwylliannol, cymdeithasol ac amgylcheddol penodol?
- sut mae archifo perfformiad yn cyfrannu at gyfansoddiad
maes o'r fath?
Dyma'r deunydd y bydd Beth yw 'Performance'
yn Gymraeg? yn ei ddefnyddio:
- dogfennau, gan gynnwys ffotograffau, ffilmiau
a fideos, datganiadau, nodiadau, darluniau, erthyglau papur newydd,
cofnodion ysgrifenedig ayyb.
- cyfres o gyfweliadau
gydag artistiaid, cynulleidfaoedd ac eiriolwyr.
Dyma'r hyn y mae Beth yw 'Performance' yn
Gymraeg? yn anelu tuag ato:
- archif chwiliadwy
ar-lein. Nid creu casgliad diriaethol newydd mo'r bwriad ond,
yn hytrach, creu mynegai 'rhithwir' sy'n caniatáu i ddefnyddwyr
weld lle y cedwir deunydd dogfennol ar gelf perfformio yng Nghymru.
- cyfres o
gyfweliadau cyhoeddus 'Hanes Llafar' (2006-2008).
- cyhoeddiad a fydd yn cofnodi 40 mlynedd o Gelf
Perfformio yng Nghymru (1968-2008), gan gynnwys cronoleg, erthyglau
beirniadol ar artistiaid, sefydliadau a rhwydweithiau, themâu
a mudiadau allweddol, a llyfryddiaeth o gyhoeddiadau perthnasol.
a: gwefan, blog,
darlithoedd, ail-luniadau,
ail-ymweliadau, cyhoeddiadau, gosodiadau sain ayyb.
|