Beth yw 'performance' yn Gymraeg? - Hanes Llafar Celfyddyd yng
Nghymru (1968-2008)
Cyfres o ddigwyddiadau dros ddwy flynedd yn ymwneud
ag artistiaid allweddol sydd wedi siapio datblygiad celfyddyd perfformio
yng Nghymru ers 1968. Bydd sgyrsiau cyhoeddus gydag Ivor Davies,
Shirley Cameron, Roland Miller, John Chris Jones, Timothy Emlyn
Jones, Andrew Knight, Anthony Howell, Janek Alexander, Geoff Moore,
Mike Pearson, Richard Gough, Phil Babot, André Stitt a Simon
Whitehead, ynghyd â dogfennaeth eang, yn rhoi darlun clir
o fywiogrwydd a phwysigrwydd celfyddyd perfformio yng Nghymru a
thu hwnt.
Detholiadau fideo a chlywedol
Sgwrs 1: Ivor Davies (12 Hydref 2006, Cardiff School
of Art and Design)
Ffoto:
Phil Babot
... yn sgwrsio am ei waith perfformio yn y 1960au,
y Destruction in Art Symposium ym 1966 a'i ymrwymiad â'r
grwp Beca.
Sgwrs 2: Shirley Cameron & Roland Miller (23
Tachwedd 2006, Cardiff School of Art and Design)
Ffoto:
Tim Freeman
... yn sgwrsio am berfformio yn y Barry Summer
School nodedig a'u gwaith perfformio ar y cyd yng Nghymru yn
y 1970au.
Sgwrs 3: Timothy Emlyn Jones, John Chris Jones ac Andrew Knight
(22 Chwefror 2007, Cardiff School of Art and Design)
Ffoto:
Phil Babot
...yn sgwrsio am eu cyfraniad i'r rhaglen berfformio
ryngwladol yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ym 1977.
Sgwrs 4: Anthony Howell (15 Mawrth 2007, Cardiff
School of Art and Design)
Ffoto:
Tim Freeman
...yn sgwrsio am sîn perfformio Caerdydd yn
ystod y 1990au a'i ymrwymiad â Grey Suit a Cardiff
Art in Time.
Sgwrs 5: Janek Alexander, Geoff Moore & Mike Pearson (18
Hydref 2007, Cardiff School of Art and Design)
Ffoto:
Tim Freeman
... yn sgwrsio am y sin berfformio yng Nghaerdydd
yn y 1970au ac ynglyn â'u cysylltiadau a Chanolfan Gelf
Chapter.
: fideo a chlywedol
Sgwrs 6: Richard Gough (22 Tachwedd 2007, Y Ffowndri
Aberystwyth)
...yn sgwrsio ynglyn â dulliau amgen o ddysgu,
archifo a chyhoeddi gwaith perfformiadol, a hefyd am berthnasedd
rhyngwladoliaeth i gelfyddyd perfformio yng Nghymru.
: fideo a chlywedol
Sgwrs 7: Phil Babot, André Stitt, Simon Whitehead (24
Ionawr 2008, Cardiff School of Art and Design)
Ffoto:
Tim Freeman
...yn sgwrsio ynglyn â'r sîn gelfyddyd
perfformio yng Nghymru heddiw a'i berthynas a'r gofodau a redir
gan artistiaid, yn ogystal â phwysigrwydd lleoliad mewn perfformio.
: fideo a chlywedol
|