|
Noder mai dim ond ar gyfer y sgyrsiau â
Ivor Davies, Shirley Cameron & Roland Miller, John Chris Jones,
Timothy Emlyn Jones, Andrew Knight ac Anthony Howell y ceir y trawsgrifiadau
llawn ar hyn o bryd a chânt eu cyhoeddi gan trace:Samizdat
Press.
Bydd y trawsgrifiadau llawn o'r sgyrsiau
â Janek Alexander, Geoff Moore, Mke Pearson, Richard Gough,
Phil Babot, André Stitt a Simon Whitehead yn cael eu cyhoeddi
mewn ail gyfrol yn ddiweddarach yn y flwyddyn gan trace: Samizdat
Press.
Os hoffech chi gael crynodebau o drawsgrifiadau'r
holl sgyrsiau cyhoeddus am Hanes Llafar cliciwch yma.
Detholiadau o Sgyrsiau
I gael rhagor o wybodaeth ac i weld detholiadau FIDEO
o'r sgyrsiau cliciwch ar y lluniau isod.

Ivor Davies

Shirley Cameron & Roland Miller

J.C.Jones, T.E. Jones & A. Knight

Anthony Howell
|
HYSBYSIAD CYHOEDDIAD
What's Welsh for Performance? Beth yw 'performance'
yn Gymraeg?
An Oral History of Performance Art in Wales 1968-2008
gan: Heike Roms
Gyda: Shirley Cameron; Ivor Davies; Anthony Howell; John Chris
Jones; Timothy Emlyn Jones; Andrew Knight; Roland Miller.

Dros 40 mlynedd mae artistiaid wedi bod yn creu perfformiadau a
chelfyddyd fyw yng Nghymru - ac eto mae eu gwaith yn parhau i gael
ei gyfyngu i frith gofion o storïau, sïon ac achlust.
Mae What's Welsh for Performance? yn ceisio dadorchuddio
hanes cudd perfformio yng Nghymru trwy sgwrsio ag artistiaid allweddol
sydd wedi siapio'r hanes hwn ers 1968. Mae eu hatgofion, ynghyd
â dogfennaeth eang, yn rhoi darlun clir o fywiogrwydd a phwysigrwydd
celfyddyd perfformio yng Nghymru a thu hwnt.
Mae'r cyhoeddiad unigryw hwn yn dod â'r trawsgrifiadau llawn
ynghyd o dymor 1 - What's Welsh for Performance? Beth yw 'performance'
yn Gymraeg? - An "Oral History of Performance Art in Wales".
Wedi'i ddarlunio'n gyfoethog â lluniau hanesyddol a dogfennaeth
berfformio arall drwyddo draw. Cyhoeddwyd ym mis Mawrth 2008 gan
trace: Samizdat Press, Caerdydd.
200t., Yn Saesneg gyda chyflwyniad Cymraeg.
ISBN 9 780955 392726
RRP: £10
ar gael trwy:
- Unbound
- online bookshop for live art
- CPR Centre for
Performance Research Bookshop
- amazon
UK
- amazon
US
- amazon
Germany
ac adwerthwyr eraill
neu mail@performance-wales.org.
Mae'n cynnwys:
Ivor Davies:
yn sgwrsio am ei waith perfformio yn y 1960au, y Destruction
in Art Symposium ym 1966 a'i ymrwymiad â'r grwp Beca.
Shirley
Cameron & Roland Miller: yn sgwrsio am berfformio yn y Barry
Summer School nodedig a'u gwaith perfformio ar y cyd yng Nghymru
yn y 1970au.
Timothy
Emlyn Jones, John Chris Jones and Andrew Knight: yn sgwrsio
am eu cyfraniad i'r rhaglen berfformio ryngwladol yn Eisteddfod
Genedlaethol Wrecsam ym 1977.
Anthony Howell:
yn sgwrsio am sîn perfformio Caerdydd yn ystod y 1990au a'i
ymrwymiad â Grey Suit a Cardiff Art in Time.
trace: Samizdat Press
c/o Trace Gallery
26 Moira Place
Cardiff / Caerdydd CF24 0ET
mail@performance-wales.org

|