Fideo (detholiad):
J.C.Jones, T.E.Jones ac Andrew
Knight yn sgwrsio efo Heike Roms, 22 Chwefror 2007 (rhan yn unig)
Arhoswch am ychydig nes bod y fideo wedi
llwytho. Os nad ydych chi'n
gallu gwylio'r fideo uchod, cliciwch yma i lawrlwytho QuickTime
yn rhad ac am ddim.
Eleni, hefyd, mewn cydweithrediad â Chyngor Celfyddydau Cymru,
‘rydym yn cyflwyno rhywbeth sy’n hollol newydd ar faes
yr Eisteddfod – Celfyddydau Berfformiadol. Yn yr ail bafiliwn
fe gynigiwn daith drwy amser a thrwy’r byd Celtaidd gyda golwg
newydd ar yr etifeddiaeth Geltaidd mewn ffordd sydd heb fod yn hollol
draddodiadol: fe fydd yno arddangosfa o ddelweddau a phrintiadau
a phob diwrnod fe fydd gwahanol arlunwyr yn datgan eu neges, nid
trwy arlunio a cherflunio, ond trwy berfformio er mwyn ysgogi trafodaeth
a sgwrs gyda’r gynulleidfa. Disgwyliwn I hyn fod yn un o’r
digwyddiadau mwyaf cyffrous ym myd celfyddyd yn y blynyddoedd diweddar
yng Nghymru.
(Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol Cymru (1977)
|
Timothy Emlyn Jones, John Chris Jones ac Andrew Knight
Dydd Iau 22 Chwefror 2007, 6yh
Space Workshop, Cardiff School of Art and Design
Ym 1977 trefnodd Cyngor Celfyddydau Cymru arddangosfa wythnos o
hyd oedd yn cynnwys celfyddyd perfformio ryngwladol yn yr Eisteddfod
Genedlaethol yn Wrecsam. Cafodd y digwyddiad, oedd â'r teitl
Fel y darfu'r gorffennol - fel y del y dyfodol, ei guradu
o dan faner y Free International University gan Caroline
Tisdall, oedd ar y pryd yn feirniad celf y Guardian, Timothy Emlyn
Jones ac Andrew Knight (CCC), ac ymysg yr arddangoswyr oedd
Joseph Beuys, Mario a Merisa Merz, Jannis Kounellis, Brian O'Doherty/Patrick
Ireland, Rose Finn-Kelcey, Tina Keane, Nigel Rolfe, John Chris Jones
a Timothy Emlyn Jones (ac eraill). Roedd ymateb y wasg gyhoeddus
yn rhagweladwy, gan iddynt gondemnio'r fenter fel 'gwastraff arswydus
o arian cyhoeddus', a gofynnwyd cwestiynau i Ysgrifennydd Cymru
am y mater.
Daeth y digwyddiad hefyd yn adnabyddus oherwydd yr artist Cymreig
lleol Paul Davies. Ystyrir bod ei ymyriadau
(answyddogol) a grëwyd yn yr Eisteddfod yn 'gychwyn ar gelfyddyd
wleidyddol Gymreig gyfoes hunanymwybodol' (Shelagh Hourahane).
Ffoto
© Phil Babot
Timothy Emlyn Jones yw Deon Coleg Celf Burren. Yn wreiddiol
roedd yn artist perfformio, yn arddangos gyda Beuys, Stuart Brisley
a John Latham, ond mae ei waith diweddar wedi canolbwyntio ar ddarlunio
perfformiadol fel proses o ymholi. Mae'n arddangos yn rhyngwladol
ac wedi'i gynnwys mewn casgliadau cyhoeddus mewn nifer o wledydd.
Bu John Chris Jones yn arloeswr ym maes dylunio systemau
ac ymchwil dyfodolion. Ystyrir ei lyfr Design Methods yn
arf cyfeiriol safonol i ddylunwyr. Mae ei agwedd at ysgrifennu a
chyhoeddi yn hynod o berfformiadol, gan iddo ddefnyddio yn aml dulliau
cyfansoddi ar hap. Dros y blynyddoedd diwethaf mae wedi archwilio
ysgrifennu ar y we fyd-eang, gan ddyfeisio i bob pwrpas yr hyn a
elwir bellach yn flog ar y we (softopia.demon.co.uk). Mae Andrew
Knight yn rheolwr a strategydd celf cyhoeddus ac mae ei fywyd
proffesiynol yn canolbwyntio ar gyswllt y cyhoedd â diwylliant
cyfoes yn ei amryfal ffurfiau, ond gyda phwyslais arbennig ar y
celfyddydau gweledol. Y mae'n gyn-gadeirydd ar y Fforwm Celf
Cyhoeddus a gweithiodd i AIR and SPACE, yr ICA, Cyngor Celfyddydau
Cymru ac i awdurdodau lleol.

T.E.Jones, ‘Wrecsam Triad’,
Eisteddfod Wrecsam1977. © T.E.Jones
Sgwrsiodd John Chris Jones, Timothy Emlyn Jones ac Andrew Knight
am eu cyfraniad i'r rhaglen berfformio ryngwladol yn Eisteddfod
Genedlaethol Wrecsam ym 1977.
|