Fideo (detholiad):
Anthony Howell yn sgwrsio efo
Heike Roms, 15 Mawrth 2006
Arhoswch am ychydig nes bod y fideo wedi
llwytho. Os nad ydych chi'n
gallu gwylio'r fideo uchod, cliciwch yma i lawrlwytho QuickTime
yn rhad ac am ddim.
"As yet there exists no grammar covering performance's discipline,
a discipline which is nevertheless clearly distinct from that of
theatre. Initially I set out to rectify this absence of a grammar.
I took colour as my model. Aside from black and white, painting
has three indivisible primaries. Mixing these produces secondary
colours. Similarly, performance has three primaries, and these may
be mixed to create secondary actions. The primary actions are stillness,
repetition and inconsistency.”
(Anthony Howell, The Analysis of Performance Art - A Guide to its Theory and Practice, Amsterdam: Harwood 1999: xiii)
|
Anthony Howell
Dydd Iau 15 Mawrth 2007, 6 yh (rhan o CARDIFF ART IN TIME 2007)
Space Workshop, Cardiff School of Art and Design
Mae Anthony Howell yn fardd, nofelydd ac yn artist perfformio.
Sefydlodd a bu'n gyfarwyddwr The Theatre of Mistakes - cwmni
perfformio arloesol yn y saithdegau, a bu'n arddangos gwaith gyda
hwy mewn nifer o leoliadau celf rhyngwladol nodedig o Oriel y Tate
i'r Biennale yn Sydney. Mae hefyd wedi cyhoeddi nofel a nifer o
lyfrau barddoniaeth ac mae wedi darlithio'n eang ar ei waith perfformio.
Ef yw awdur The Analysis of Performance Art, a chydawdur
Elements of Performance Art, y casgliad cyntaf o ymarferion
perfformio. Mae wedi hyfforddi fel dawnsiwr bale, ac yn ddiweddar
datblygodd 'Tango Art' - asiad o'r tango a chelfyddyd perfformio,
ac mae wedi teithio'n eang gyda hwn.

Ffoto: Tim Freeman.
Am nifer o flynyddoedd bu Howell yn Uwch-ddarlithydd Time-Based
Art yn Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd. Yn ystod y cyfnod hwn
roedd yn olygydd ar Grey Suit: Video for Art & Literature
- cylchgrawn perfformio dylanwadol a ddosbarthwyd ar VHS - ac yn
drefnydd Cardiff Art in Time, gwyl celfyddyd perfformio a
fideo fwyaf bywiog y DU yn ystod y 1990au.
Anthony
Howell, 'Objects', Cardiff 1995. Ffoto:Jeni Cooper
Sgwrsiodd Anthony Howell am ei waith ei hun, sîn perfformio
Caerdydd yn ystod y 1990au a'i ymrwymiad â Grey Suit a
Cardiff Art in Time.
Roedd y sgwrs yn rhan o The CAT Show - Cardiff Art in Time International
Purrr-formance Art 2007, sef adfywiad o'r hen gyfres o wyliau
Cardiff Art in Time. Fe'i llwyfanwyd yn y Space Workshop yn
Cardiff School of Art Design (Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd), sef
lleoliad gwaith Howell fel athro am sawl blwyddyn, gerbron cynulleidfa
a oedd yn cynnwys nifer o'i gyn-fyfyrwyr.
|