Richard Gough
Dydd Iau 22 Tachwedd 2007, 6yh
Y Ffowndri, Aberystwyth
Dathlodd y Centre for Performance Research (CPR), a leolir
yn Aberystwyth, eu pen-blwydd yn ddeg ar hugain yn 2005. Fel sefydliad
theatr sy'n ymroddi mewn hyfforddi a dulliau newydd o ystyried a
chofnodi gwaith ymarferol, mae'r CPR yn trefnu gweithdai, gwyliau
a symposia, yn cyhoeddi llyfrau ar berfformio ac yn rhedeg canolfan
adnoddau amlddiwylliannol. Yr ymdriniaeth rhyngddiwylliannol yma,
sydd wedi bod yn elfen ganolog o'u gwaith o'r cychwyn, sydd wedi
dod a'r CPR i gysylltiad â syniadaeth ehangach o berfformio,
ac maent wedi body n gyfrifol am ddenu artistiaid perfformio rhyngwladol
i Gymru, megis Guillermo Goméz-Peña ac Rachel Rosenthal.

Richard Gough, 31 Objects, Aberystwyth
2005. Ffoto: Franc Chamberlain.
Mae Cyfarwyddwr Artistig y CPR, Richard Gough, yn Athro yn Adran
Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae wedi treulio'r deng mlynedd ar hugain diwethaf yn datblygu ac
yn archwilio gweithiau perfformio arbrofol a rhyngddisgyblaethol.
Bu'n gyfrifol am guradu nifer o brosiectau perfformio rhyngwladol,
ac mae hefyd yn olygydd cyffredinol o'r cyfnodolyn Performance
Research.
Roedd Richard Gough yn sgwrsio ynglyn â dulliau amgen o ddysgu,
archifo a chyhoeddi gwaith perfformiadol, a hefyd am berthnasedd
rhyngwladoliaeth i gelfyddyd perfformio yng Nghymru.
Gyda chefnogaeth Centre for Performance Research.
|