home : publications : archive : oral history : events : resources : links : news blog : contact : search : english
cyfnod 1 : sgwrs 1 : sgwrs 2 : sgwrs 3 : sgwrs 4 : sgwrs 5 : sgwrs 6 : sgwrs 7

: trawsgrifiad - llawn

: trawsgrifiad - detholiadau

: crynodeb o'r trawsgrifiad


Fideo (detholiad):


Ivor Davies yn sgwrsio efo Heike Roms, 12 Hydref 2006

Arhoswch am ychydig nes bod y fideo wedi llwytho. Os nad ydych chi'n gallu gwylio'r fideo uchod, cliciwch yma i lawrlwytho QuickTime yn rhad ac am ddim.

Ivor Davies. [Making performance] was a kind of fulfilment of a wish I’d had five years or so earlier to try and extend painting and collage out into space and have actions in it, to have a kind of proscenium stage and to have objects coming out into three dimensions and to have movement and struggle and so on. […] What I felt a part of was a kind of performance work which didn’t involve the artist. The artist constructed it, stood back and operated it, almost like a machine.

Ivor Davies

Dydd Iau 12 Hydref 2006, 6yh (fel rhan o EXPERIMENTICA 2007)
Space Workshop, Cardiff School of Art and Design

Ffoto: Phil Babot

Bu Ivor Davies o Benarth, sy'n arlynydd, awdur a gweithredwr gwleidyddol ac yn un o'r ffigurau mwyaf blaenllaw yn y byd celf cyfoes yng Nghymru, yn dysgu Hanes Celf ym Mhrifysgol Caeredin a Choleg Celf Casnewydd. Derbyniodd ddoethuriaeth o Gaeredin am ei draethawd ar yr avant-garde yn Rwsia ac mae wedi cyhoeddi llawer o erthyglau ysgolheigaidd ar y cyfnod modern yn Saesneg ac yn y Gymraeg. Ers yn agos i ugain mlynedd bellach mae wedi bod yn peintio'n amser llawn. Mae synthesis o bynciau Celtaidd hynafol a rhai Cymreig modern yn mynegi'r frwydr am hunaniaeth ddiwylliannol a chenedlaethol yn ei waith, sydd i'w weld mewn nifer o gasgliadau cyhoeddus a phreifat.

Ivor davies event
Ivor Davies Adam on St Agnes Eve Abertawe 1968 Ffoto: Stephen Hibbs

Bu gan Davies ddiddordeb erioed yn y mudiadau celfyddydol mwyaf radicalaidd. Yn ystod y 1960au chwaraeodd ran ganolog yn y mudiad Destruction in Art, gan greu cyfres o berfformiadau a oedd yn cynnwys diagramau anatomegol a ffrwydron ac a ddangoswyd yng Nghaeredin, Durham, Bryste a'r digwyddiad dylanwadol yn Llundain ym 1966, sef y Destruction in Art Symposium. Ei waith ef, Adam on St Agnes Eve, ym Mhrifysgol Abertawe ym 1968 oedd un o'r “digwyddiadau” cyntaf y gwyddir amdano a gynhaliwyd yng Nghymru.


Sgwrsiodd Ivor Davies am ei waith perfformio yn y 1960au, y Destruction in Art Symposium ym 1966 a'i ymrwymiad â'r grwp Beca.

Gyda chefnogaeth Chapter.

A research project devoted to uncovering and archiving the history of Performance Art in Wales
Prosiect ymchwil i ddadorchuddio ac archifo hanes Celf Perfformio yng Nghymru
advanced web statistics