Janek Alexander, Geoff Moore & Mike Pearson
Dydd Iau 18 Hydref 2007, 6yh (fel rhan o EXPERIMENTICA 2007)
Space Workshop, Cardiff School of Art and Design

Ffoto: Phil Babot
Beth yw'r berthynas rhwng celfyddyd perfformio â theatr arbrofol?
Fe honnir y gellir olrhain datblygiad celfyddyd perfformio yng Ngogledd
America o feysydd arlunio a cherflunio, tra bod artistiaid tebyg
ym Mhrydain wedi gosod eu hunain yn agosach at y theatr amgen a'i
draddodiadau radicalaidd.Yn wir, mae'r ffin rhwng theatr arbrofol
a chelfyddyd perfformio yng Nghymru wedi bod yn un hyblyg. Mae artistiaid
theatr yng Nghymru yn aml wedi defnyddio strategau celfyddydol a
ellir eu holrhain o gelfyddyd perfformio, megis theatr safle-benodol,
gwaith corfforol yn seiliedig ar dasgau, perfformiadau parhaol,
ac o dalu mwy o sylw i'r gynulleidfa.
Ffoto:
Chapter yn yr 80au. © Chapter.
Roedd tri o artistiaid theatr arbrofol bwysicaf Cymru o'r deg mlynedd
ar hugain diwethaf, Janek Alexander, Geoff Moore ac Mike Pearson,
yn sgwrsio am eu gwaith, am y sin berfformio yng Nghaerdydd yn y
1970au ac 1980au ac ynglyn â'u cysylltiadau a Chanolfan
Gelf Chapter.
Gweithiodd Janek Alexander fel perfformiwr
a chyfarwyddwr gyda chwmnïau megis Diamond Age, cyn
iddo ddod yn rhaglennydd theatr ar gyfer Chapter. Erbyn hyn,
Janek yw cyfarwyddwr y Ganolfan. Geoff Moore yw cyfarwyddwyr
artsitig Moving Being, un o'r grwpiau perfformio aml-gyfryngol
a rhyngddisgyblaethol cyntaf yn y DU. Roedd Mike Pearson
yn un o aelodau cychwynnol Cardiff Laboratory Theatre yn
yr 1970 a Brith Gof yn y 1980au, ac mae'n parhau i gynhyrchu gwaith
gyda Pearson/Brookes.
Gyda chefnogaeth Chapter.
|