home : publications : archive : oral history : events : resources : links : news blog : contact : search : english
cyfnod 1 : sgwrs 1 : sgwrs 2 : sgwrs 3 : sgwrs 4 : sgwrs 5 : sgwrs 6 : sgwrs 7

: trawsgrifiad - llawn

: crynodeb o'r trawsgrifiad


: fieo (i ddod)

 


Phil Babot, André Stitt & Simon Whitehead

Dydd Iau 24 Ionawr 2008, 6yh
Space Workshop, Cardiff School of Art and Design

Ffoto: Tim Freeman

Mae'r sîn gelfyddyd perfformio gyfoes yng Nghymru yn un o'r rhai mwyaf byrlymus a bywiog yn y DU. Dros y blynyddoedd diwethaf yn arbennig, mae yna nifer o rwydweithiau a gofodau a rynnir gan artistiaid wedi'i sefydlu er mwyn hybu a chefnogi'r sin: trace: installaction artspace a tactileBOSCH (Caerdydd), Coed Hills Rural Artspace (Y Bont-faen), ointment (Sir Benfro), Rêl Institiwt (Llanrwst), Blaengar (Aberystwyth) a'r grwp Gymru-led Second Wednesday. Mae'r rhain i gyd yn cyfrannu tuag at yr amrywiaeth o waith perfformio sydd i'w weld yng Nghymru heddiw. Os oes yna un rhinwedd sy'n cael ei amlygu'n gyson yn y gwaith a gynhyrchir o ganlyniad i'r sefydliadau uchod, y gydnabyddiaeth a'r cwestiynu cyson o leoliad(au) perfformio, ac o'u lleoliad daearyddol a chymdeithasol yw hynny.

Bydd tri o artistiaid celfyddyd perfformio fwyaf toreithiog y Gymru gyfoes, Phil Babot, André Stitt a Simon Whitehead, yn sgwrsio ynglyn â'r sîn gelfyddyd perfformio yng Nghymru heddiw a'i berthynas a'r gofodau a redir gan artistiaid, yn ogystal â phwysigrwydd lleoliad mewn perfformio.

Fel un sy'n creu 'digwyddiadau byw', fe gysylltir Phil Babot a nifer o'r gofodau hyn a rynnir gan artistiaid yng Nghymru, gan gynnwys trace; tactileBOSCH a Coed Hills. Fe gysidrir André Stitt, a aned ym Melffast, fel un o artistiaid celfyddyd perfformio blaenaf Ewrop. Yn Athro yn Ysgol Gelf Caerdydd, sefydlodd trace: installaction artspace yn 2000. O'i ganolfan yn y Canolbarth, mae Simon Whitehead wedi datblygu corff o waith perfformio yn seiliedig a'r arferion cerddwyr. Fe yw un o aelodau cychwynnol ointment.

Simon Whitehead, Tableland, 1999. Ffoto: Martin Roberts.

A research project devoted to uncovering and archiving the history of Performance Art in Wales
Prosiect ymchwil i ddadorchuddio ac archifo hanes Celf Perfformio yng Nghymru
advanced web statistics