beth yw 'performance' yn gymraeg? - Hanes Llafar Celfyddyd Perfformio yng Nghymru
Cyfres o ddigwyddiadau dros ddwy flynedd yn ymwneud ag artistiaid allweddol sydd wedi siapio datblygiad celfyddyd perfformio yng Nghymru ers 1968. Bydd cyfweliadau cyhoeddus gyda Janek Alexander, Geoff Moore, Mike Pearson, Richard Gough, Phil Babot, André Stitt a Simon Whitehead yn cyflwyno i'r gynulleidfa agwedd o hanes celf Cymru sydd wedi'i hesgeuluso hyd yma, ond eto sy'n faes hynod o bwysig.
Bydd cyhoeddiad i fynd gyda'r gyfres yn cael ei lansio ym
mis Ionawr 2008. I gael mwy o wybodaeth neu i archebu copi ymlaen
llaw cysylltwch â mail@performance-wales.org
Tymor 2 (Hydref 2007 - Ionawr 2008)
Dydd Iau 18 Hydref 2007
6yh Cardiff School of Art and Design
Janek Alexander, Geoff Moore, Mike Pearson
yn sgwrsio am eu gwaith, am y sin berfformio yng Nghaerdydd yn y 1970au ac 1980au ac ynglyn â'u cysylltiadau a Chanolfan Gelf Chapter
Space Workshop, Cardiff School of Art and Design, Howard Gardens, Caerdydd CF24 0SP
Map a Chyfarwyddiadau:
http://www.uwic.ac.uk/transport/maps/howardgardens1.asp
Maes parcio ar gael. Mynediad i'r Anabl.
Dydd Iau 22 Tachwedd 2007
6yh Y Ffowndri Aberystwyth
Richard Gough
yn sgwrsio ynglyn â dulliau amgen o ddysgu, archifo a chyhoeddi gwaith perfformiadol, a hefyd am berthnasedd rhyngwladoliaeth i gelfyddyd perfformio yng Nghymru
Y Ffowndri, Adeilad Parry-Williams, Penglais, Aberystwyth SY23 3AJ
Map a Chyfarwyddiadau:
http://www.aber.ac.uk/en/pub/maps/penglais-main.php
Maes parcio ar gael. Mynediad i'r Anabl.
Dydd Iau 24 Ionawr 2008
6pm Cardiff School of Art and Design
Phil Babot, André Stitt, Simon Whitehead
yn sgwrsio ynglyn â'r sîn gelfyddyd perfformio yng Nghymru heddiw a'i berthynas a'r gofodau a redir gan artistiaid, yn ogystal â phwysigrwydd lleoliad mewn perfformio
Space Workshop, Cardiff School of Art and Design, Howard Gardens, Caerdydd CF24 0SP
Map a Chyfarwyddiadau:
http://www.uwic.ac.uk/transport/maps/howardgardens1.asp
Maes parcio ar gael. Mynediad i'r Anabl.
Yn Saesneg .
Mynediad am ddim.
i gadw lle, cysylltwch â: mail@performance-wales.org
Prosiect: Dr Heike Roms; mewn cydweithrediad â
SHIFTwork Time Based Art Research Group, Cardiff School of Art and
Design.
Ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru
Gyda chefnogaeth Prifysgol Cymru Aberystwyth; Athrofa Prifysgol
Cymru, Caerdydd a Chapter.
|