Timothy Emlyn Jones, John Chris Jones ac Andrew Knight
Dydd Iau 22 Chwefror 2007
Space Workshop, Cardiff School of Art and Design
Ym 1977 trefnodd Cyngor Celfyddydau Cymru arddangosfa wythnos o
hyd oedd yn cynnwys celfyddyd perfformio ryngwladol yn yr Eisteddfod
Genedlaethol yn Wrecsam. Cafodd y digwyddiad ei guradu o dan
faner y Free International University gan Caroline Tisdall,
oedd ar y pryd yn feirniad celf y Guardian, ac ymysg yr arddangoswyr
oedd Joseph Beuys, Mario a Merisa Merz, Jannis Kounellis, Brian
O'Doherty/Patrick Ireland, Rose Finn-Kelcey, Tina Keane, Nigel Rolfe,
John Chris Jones a Timothy Emlyn Jones. Roedd ymateb y wasg gyhoeddus
yn rhagweladwy, gan iddynt gondemnio'r fenter fel 'gwastraff arswydus
o arian cyhoeddus', a gofynnwyd cwestiynau i Ysgrifennydd Cymru
am y mater. Daeth y digwyddiad hefyd yn adnabyddus oherwydd ymyriadau
(answyddogol) gan yr artist Cymreig lleol Paul Davies. Ystyrir bod
ei weithgareddau Welsh Not a
Spiral Gag a grëwyd yn yr Eisteddfod yn 'gychwyn ar gelfyddyd
wleidyddol Gymreig gyfoes hunanymwybodol' (Shelagh Hourahane).

ffoto © Phil Babot
Roedd Timothy Emlyn Jones, John Chris Jones ac Andrew Knight yn
sgwrsio am eu cyfraniad i'r rhaglen berfformio ryngwladol yn Eisteddfod
Genedlaethol Wrecsam ym 1977.

T.E.Jones, ‘Wrecsam Triad’, Eisteddfod Wrecsam1977. © T.E.Jones
Timothy
Emlyn Jones yw Deon Coleg Celf Burren.
Yn wreiddiol roedd yn artist perfformio, yn arddangos gyda Beuys,
Stuart Brisley a John Latham, ond mae ei waith diweddar wedi canolbwyntio
ar ystyried darlunio perfformiadol fel proses o ymholi. Mae'n arddangos
yn rhyngwladol ac wedi'i gynnwys mewn casgliadau cyhoeddus mewn
nifer o wledydd.
Bu John
Chris Jones yn arloeswr ym maes dylunio systemau ac ymchwil
dyfodolion. Ystyrir ei lyfr Design Methods yn arf cyfeiriol safonol
i ddylunwyr. Mae ei agwedd at ysgrifennu a chyhoeddi yn hynod o
berfformiadol, gan iddo ddefnyddio yn aml dulliau cyfansoddi ar
hap. Dros y blynyddoedd diwethaf mae wedi archwilio ysgrifennu ar
y we fyd-eang (softopia.demon.co.uk).
Mae Andrew
Knightyn rheolwr a strategydd celf cyhoeddus ac mae ei fywyd
proffesiynol yn canolbwyntio ar gyswllt y cyhoedd â diwylliant
cyfoes yn ei amryfal ffurfiau, ond gyda phwyslais arbennig ar y
celfyddydau gweledol. Y mae’n gyn-gadeirydd ar y Public
Art Forum (Fforwm Celf Cyhoeddus) a gweithiodd i AIR and SPACE,
yr ICA, Cyngor Celfyddydau Cymru ac i awdurdodau lleol.
|