|
Transcript summary: cliciwch
yma
Fideo:
Anthony Howell yn sgwrsio efo
Heike Roms, 15 Mawrth 2006
"As yet there exists no grammar covering performance's discipline,
a discipline which is nevertheless clearly distinct from that of theatre.
Initially I set out to rectify this absence of a grammar. I took colour
as my model. Aside from black and white, painting has three indivisible
primaries. Mixing these produces secondary colours. Similarly, performance
has three primaries, and these may be mixed to create secondary actions.
The primary actions are stillness, repetition and inconsistency.”
(Anthony Howell, The Analysis of Performance Art - A Guide to its Theory and Practice, Amsterdam: Harwood 1999: xiii)

|
Anthony Howell
Dydd Iau 15 Mawrth 2007 (rhan o CARDIFF ART IN TIME 2007)
Space Workshop, Cardiff School of Art and Design
Mae Anthony Howell yn fardd, nofelydd ac yn artist perfformio.
Sefydlodd a bu'n gyfarwyddwr The Theatre of Mistakes - cwmni
perfformio arloesol yn y saithdegau, a bu'n arddangos gwaith gyda
hwy mewn nifer o leoliadau celf rhyngwladol nodedig o Oriel y Tate
i'r Biennale yn Sydney. Mae hefyd wedi cyhoeddi nofel a nifer o
lyfrau barddoniaeth ac mae wedi darlithio'n eang ar ei waith perfformio.
Ef yw awdur The Analysis of Performance Art, a chydawdur
Elements of Performance Art, y casgliad cyntaf o ymarferion
perfformio. Mae wedi hyfforddi fel dawnsiwr bale, ac yn ddiweddar
datblygodd Tango Art -asiad o'r tango a chelfyddyd perfformio,
ac mae wedi teithio'n eang gyda hwn.

Am nifer o flynyddoedd bu Howell yn Uwch-ddarlithydd Celf Amserlinol
yn Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd. Yn ystod y cyfnod hwn roedd
yn olygydd ar Grey Suit: Video for Art & Literature -
cylchgrawn perfformio dylanwadol a ddosbarthwyd ar VHS - ac yn drefnydd
Cardiff Art in Time, gwyl celfyddyd perfformio a fideo fwyaf
bywiog y DU yn ystod y 1990au.

Roedd Anthony Howell yn sgwrsio am ei waith ei hun, sîn perfformio
Caerdydd yn ystod y 1990au a'i ymrwymiad â Grey Suit
a Cardiff Art in Time.
|