home : publications : archive : events : resources : links : news blog : contact : search :english
tymor 2 : trafodaeth 1 : trafodaeth 2 : trafodaeth 3
Richard Gough 31 Objects
Richard Gough 31 Objects... Aberystwyth 2005.
Photo © Franc Chamberlain.

Richard Gough

Dydd Iau 22 Tachwedd 2007
Y Ffowndri, Adeilad Parry-Williams, Penglais, Aberystwyth SY23 3AJ

Dathlodd y Centre for Performance Research (CPR), a leolir yn Aberystwyth, eu pen-blwydd yn ddeg ar hugain yn 2005. Fel sefydliad theatr sy'n ymroddi mewn hyfforddi a dulliau newydd o ystyried a chofnodi gwaith ymarferol, mae'r CPR yn trefnu gweithdai, gwyliau a symposia, yn cyhoeddi llyfrau ar berfformio ac yn rhedeg canolfan adnoddau amlddiwylliannol. Yr ymdriniaeth rhyngddiwylliannol yma, sydd wedi bod yn elfen ganolog o'u gwaith o'r cychwyn, sydd wedi dod a'r CPR i gysylltiad â syniadaeth ehangach o berfformio, ac maent wedi body n gyfrifol am ddenu artistiaid perfformio rhyngwladol i Gymru, megis Guillermo Gomez-Pena ac Rachel Rosenthal.

Mae Cyfarwyddwr Artistig y CPR, Richard Gough, yn Athro yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae wedi treulio'r deng mlynedd ar hugain diwethaf yn datblygu ac yn archwilio gweithiau perfformio arbrofol a rhyngddisgyblaethol. Bu'n gyfrifol am guradu nifer o brosiectau perfformio rhyngwladol, ac mae hefyd yn olygydd cyffredinol o'r cyfnodolyn Performance Research.

Roedd Richard Gough yn sgwrsio ynglyn â dulliau amgen o ddysgu, archifo a chyhoeddi gwaith perfformiadol, a hefyd am berthnasedd rhyngwladoliaeth i gelfyddyd perfformio yng Nghymru.

With support from / Gyda chefnogaeth Centre for Performance Research.

A research project devoted to uncovering and archiving the history of Performance Art in Wales
Prosiect ymchwil i ddadorchuddio ac archifo hanes Celf Perfformio yng Nghymru
advanced web statistics