|
Transcript summary: cliciwch
yma
Fideo:
Ivor Davies yn sgwrsio efo Heike Roms,
12 Hydref 2006
Ivor Davies. [Making performance] was a kind of fulfilment of a wish I’d had five years or so earlier to try and extend painting and collage out into space and have actions in it, to have a kind of proscenium stage and to have objects coming out into three dimensions and to have movement and struggle and so on. […] What I felt a part of was a kind of performance work which didn’t involve the artist. The artist constructed it, stood back and operated it, almost like a machine.
|
Ivor Davies
Dydd Iau 12 Hydref 2006, 6yh (fel rhan o EXPERIMENTICA 2007)
Space Workshop, Cardiff School of Art and Design
Bu Ivor Davies o Benarth, sy'n alrynydd, awdur a gweithredwr gwleidyddol
ac yn un o'r ffigurau mwyaf blaenllaw yn y byd celf cyfoes yng Nghymru,
yn dysgu Hanes Celf ym Mhrifysgol Caeredin a Choleg Celf Casnewydd.
Derbyniodd ddoethuriaeth o Gaeredin am ei draethawd ar yr avant-garde
yn Rwsia ac mae wedi cyhoeddi llawer o erthyglau ysgolheigaidd ar
y cyfnod modern yn Saesneg ac yn y Gymraeg. Ers yn agos i ugain
mlynedd bellach mae wedi bod yn peintio'n amser llawn. Mae synthesis
o bynciau Celtaidd hynafol a rhai Cymreig modern yn mynegi'r frwydr
am hunaniaeth ddiwylliannol a chenedlaethol yn ei waith, sydd i'w
weld mewn nifer o gasgliadau cyhoeddus a phreifat.

Ivor Davies Adam on St Agnes Eve Abertawe 1968 ffoto: Stephen Hibbs
Bu ganddo ddiddordeb erioed yn y mudiadau celfyddydol mwyaf radicalaidd,
ac yn ystod y 1960au chwaraeodd Davies ran ganolog yn y mudiad Destruction
in Art, gan greu cyfres o berfformiadau oedd yn cynnwys diagramau
anatomegol a ffrwydron. Ei Adam
on St Agnes Eve ym Mhrifysgol Abertawe ym 1968 oedd un o'r "Happenings"
cyntaf i gael ei cynnal yng Nghymru.
Roedd Ivor Davies yn sgwrsio am ei waith perfformio yn y 1960au,
y Symposiwm Destruction in Art ym 1966 a'i ymrwymiad â'r
grwp Beca.
|