home : publications : archive : events : resources : links : news blog : contact : search :english
tymor 2 : trafodaeth 1 : trafodaeth 2 : trafodaeth 3

chapter in the 1970s

Chapter exterior ijn the 1980s
Chapter, Cardiff in the 1970s and 1980s
©Chapter

Janek Alexander, Geoff Moore & Mike Pearson

Dydd Iau 18 Hydref 2007, 6yh (fel rhan o EXPERIMENTICA 2007)
Space Workshop, Cardiff School of Art and Design, Howard Gardens, Cardiff CF24 0SP

Beth yw'r berthynas rhwng celfyddyd perfformio â theatr arbrofol? Fe honnir y gellir olrhain datblygiad celfyddyd perfformio yng Ngogledd America o feysydd arlunio a cherflunio, tra bod artistiaid tebyg ym Mhrydain wedi gosod eu hunain yn agosach at y theatr amgen a'i draddodiadau radicalaidd.Yn wir, mae'r ffin rhwng theatr arbrofol a chelfyddyd perfformio yng Nghymru wedi bod yn un hyblyg. Mae artistiaid theatr yng Nghymru yn aml wedi defnyddio strategau celfyddydol a ellir eu holrhain o gelfyddyd perfformio, megis theatr safle-benodol, gwaith corfforol yn seiliedig ar dasgau, perfformiadau parhaol, ac o dalu mwy o sylw i'r gynulleidfa.

Roedd tri o artistiaid theatr arbrofol bwysicaf Cymru o'r deg mlynedd ar hugain diwethaf, Janek Alexander, Geoff Moore ac Mike Pearson, yn sgwrsio am eu gwaith, am y sin berfformio yng Nghaerdydd yn y 1970au ac 1980au ac ynglyn â'u cysylltiadau a Chanolfan Gelf Chapter.

Gweithiodd Janek Alexander fel perfformiwr a chyfarwyddwr gyda chwmnïau megis Diamond Age, cyn iddo ddod yn rhaglennydd theatr ar gyfer Chapter. Erbyn hyn, Janek yw cyfarwyddwr y Ganolfan. Geoff Moore yw cyfarwyddwyr artsitig Moving Being, un o'r grwpiau perfformio aml-gyfryngol a rhyngddisgyblaethol cyntaf yn y DU. Roedd Mike Pearson yn un o aelodau cychwynnol Cardiff Laboratory Theatre yn yr 1970 a Brith Gof yn y 1980au, ac mae'n parhau i gynhyrchu gwaith gyda Pearson/Brookes.

With support from / Gyda chefnogaeth Chapter.

A research project devoted to uncovering and archiving the history of Performance Art in Wales
Prosiect ymchwil i ddadorchuddio ac archifo hanes Celf Perfformio yng Nghymru
advanced web statistics