Phil Babot, André Stitt & Simon Whitehead
Dydd Iau 24 Ionawr 2008
6yh
Space Workshop, Cardiff School of Art and Design, Howard Gardens,
Caerdydd CF24 0SP

Mae'r sîn gelfyddyd perfformio gyfoes yng Nghymru yn un o'r
rhai mwyaf byrlymus a bywiog yn y DU. Dros y blynyddoedd diwethaf
yn arbennig, mae yna nifer o rwydweithiau a gofodau a rynnir gan
artistiaid wedi'i sefydlu er mwyn hybu a chefnogi'r sin: trace:
installaction artspace a tactileBOSCH (Caerdydd), Coed
Hills Rural Artspace (Y Bont-faen), ointment (Sir Benfro),
Rêl Institiwt (Llanrwst), Blaengar (Aberystwyth)
a'r grwp Gymru-led Second Wednesday. Mae'r rhain i gyd yn
cyfrannu tuag at yr amrywiaeth o waith perfformio sydd i'w weld
yng Nghymru heddiw. Os oes yna un rhinwedd sy'n cael ei amlygu'n
gyson yn y gwaith a gynhyrchir o ganlyniad i'r sefydliadau uchod,
y gydnabyddiaeth a'r cwestiynu cyson o leoliad(au) perfformio, ac
o'u lleoliad daearyddol a chymdeithasol yw hynny.
Bydd tri o artistiaid celfyddyd perfformio fwyaf toreithiog y Gymru gyfoes, Phil Babot, André Stitt a Simon Whitehead, yn sgwrsio ynglyn â'r sîn gelfyddyd perfformio yng Nghymru heddiw a'i berthynas a'r gofodau a redir gan artistiaid, yn ogystal â phwysigrwydd lleoliad mewn perfformio.
Fel un sy'n creu 'digwyddiadau byw', fe gysylltir
Phil Babot a nifer o'r gofodau hyn a rynnir gan artistiaid yng Nghymru,
gan gynnwys trace; tactileBOSCH a Coed Hills.
Fe gysidrir André Stitt, a aned ym Melffast, fel un o artistiaid
celfyddyd perfformio blaenaf Ewrop. Yn Athro yn Ysgol Gelf Caerdydd,
sefydlodd trace: installaction artspace yn 2000. O'i ganolfan
yn y Canolbarth, mae Simon Whitehead wedi datblygu corff o waith
perfformio yn seiliedig a'r arferion cerddwyr. Fe yw un o aelodau
cychwynnol ointment.
|