Fluxus yn Aberystwyth 1968-2008
FLUXCONCERT BY AND FOR FLUXUS
29 Tachwedd 2008, 8 yr hwyr, Theatr y Castell,
Aberystwyth (Clinig Flux 4-6 yh)
. ... ...
Lluniau: Daniel Ladnar.
The Fluxus Concert was a real success
Slides of cowboy drawings. We pull crackers, burst bags, howl. Somebody
chases his mate around the parish hall to hit him. Flux-Pin-Up No.
1 showers down. It is a picture of Brian. [
] People howl and
throw streamers, and stick coloured papers on their faces, and somehow
behind the light Brian throws us another set of instructions. Caution,
Art Corrupts."
(John Hall, A State of Flux John Hall at the Aberystwyth
Festival, The Guardian 30 Tachwedd 1968)
O 27 i 29 Tachwedd 1968, roedd yr artist Brian Lane
yn Aberystwyth gyda'i gydweithwyr, sef y First Dream Machine,
i drefnu digwyddiad tridiau Fluxus. Roedd wedi'i wahodd gan Wyl
Flynyddol y Celfyddydau yn Aberystwyth, sef pwyllgor o fyfyrwyr
Coleg Prifysgol Aberystwyth (a oedd yn cynnwys Bob Marsland, John
Osborne a Steve Mills). Roedd natur gyfranogol a llawn dychymyg
Fluxus yn apelio at y trefnwyr a oedd, yn ôl y gwahoddiad,
yn awyddus "i gyrraedd cynulleidfa eang"ac yn "ceisio
rhoi hwb o'r newydd i'r Wyl drwy hyrwyddo'r syniad mai rhywbeth
i'w fwynhau yw Celf".
Ymatebodd Brian Lane drwy lunio rhaglen uchelgeisiol
i Aberystwyth: cyngerdd 12 awr o gerddoriaeth electronig (gan gynnwys
darnau gan Karlheinz Stockhausen, Pierre Henry a Adrian Nutbeem),
un o'r Fluxusclinics cyntaf ym Mhrydain, arddangosfa o waith
graffig rhyngwladol a sesiwn Total Theatre. Roedd Flux
Concert yn ganolbwynt i'r Wyl, gyda pherfformiadau o'r darnau
Fluxus, sydd yn glasuron erbyn hyn, gan George Maciunas, Ben Vautier,
George Brecht a Chieko Shiomi. Yn ôl Adrian Glew, curadur
yn y Tate sy'n gyfrifol am Archif gwaith Brian Lane, roedd y digwyddiad
yn hynod bwysig gan ei fod yn dod yn rhan o ganon cyfoes Fluxus
a hanes Fluxus yng ngwledydd Prydain ers hynny (Glew 2007).
Eleni gwelwyd cryn bwyso a mesur ar ddylanwad
chwyldroadol y flwyddyn 1968, ac rydym ni yn rhoi teyrnged i'r enghraifft
arloesol hon o ymarfer celfyddydol arbrofol yn union ddeugain mlynedd
ar ôl y digwyddiad cyntaf. Bydd artistiaid sy'n gweithio yn
Aberystwyth yn perfformio eu dehongliad nhw o'r deunydd Fluxus gwreiddiol
a ddefnyddiwyd ym 1968.
...if you don't know what a Fluxconcert is you
must come and see for yourself...
[Brian Lane, 1968]
Gyda chefnogaeth Gwobrau Syr David Hughes Parry 2008.
sgoriau:
Foyer Balloon Event
George Maciunas: In Memoriam to Adriano Olivetti (1962)
Robert Watts: Event: 10 (1962)
Ben Vautier: Three Pieces for Audiences (1964)
Robert Watts: Event: 13 (1962)
George Brecht: Two Durations (1961)
George Brecht: Three Yellow Events (1961)
Chieko Shiomi: Disappearing Music for Face (1964)
Ben Vautier: Audience Piece No. 2 (1964)
Brian Lane: The Black and White Tea Party(1968)
Chieko Shiomi: Flash Piece (1966)
Ben Vautier: Choice (1964)
Tomas Schmit: Sanitas No 35 (Date unknown)
Tomas Schmit: Sanitas No. 151 (Date unknown)
Ben Vautier: Apples (1963)
Chieko Shiomi: Flash Piece(1966)
Brian Lane/ Rainbow: FLUXUS Leaflet Concert (1968)
gyda(g):
Arseli Dokumaci, Cara Brostrom, Carmel George, Chris
Okerberg,
Daniel Ladnar, Esther Pilkington, Gareth Llyr Evans, Gemma Abbott,
Glesni Mair Edwards, Kasia Coleman, Louise Ritchie, Shannon Roszell,
Naomi Turner, Rhiannon Morgan, Richard Allen, Sarah Guice,
Sinead Cormack
tîm technegol:
Emma Hayward, David Haylock, Nicola Rothwell, Ben Cole
diolch i:
Mo Tingey, Adrian Glew (Tate Archive), Nick Strong, Andrea Wiltshire,
Becky Mitchell, Mike Pearson, Melissa Donaldson, David Ian Rabey,
Arthur Dafis, John Blake, Howard Adair a nifer o myfyrwyr o Aberystwyth
o 1968 sydd wedi bod yn garedig yn rhannu eu hatgofion.
cyfarwyddwr y prosiect
Dr Heike Roms, Performance Studies, Prifysgol Aberystwyth University
Os oes gennych unrhyw atgofion
am y digwyddiad tridiau hwnnw, cliciwch yma.
|