home : publications : archive : oral history : events : resources : links : news blog : contact : search : english
cyswllt : bywgraffiad
Heike Roms in New York photo © XXXXXX
Heike Roms yn Franklin Furnace, Efrog Newydd 2006
ffoto ©Phil Babot

Bywgraffiad

Darlithydd Astudiaethau Perfformio ym Mhrifysgol Aberystwyth yw Heike Roms.

Mae wedi cyhoeddi'n eang ar arferion perfformio cyfoes, ac yn enwedig ar waith sy'n deillio o Gymru. Ymhlith ei chynlluniau at y dyfodol mae hanes y 'Performance Art' yng Nghymru, yn ogystal â llyfr ar y cyswllt rhwng perfformio ac ecoleg yng nghyd-destun Cymru. Mae Heike wedi cydweithio â sawl artist Cymreig ar amrywiaeth o weithiau perfformiadol ac mae hi'n chwarae rhan mewn sawl prosiect a rhwydwaith a arweinir gan artistiaid yng Nghymru. Mae'n aelod o fwrdd cyfarwyddwyr trace: installaction artspace a hi yw'r is-gadeirydd a'r ymgynghorydd theatr i fwrdd golygyddol New Welsh Review, sef prif gyfnodolyn llenyddol Cymru yn y Saesneg. Yn 2001 hi oedd un o sylfaenwyr 2nd Wednesday Group, ac erbyn hyn mae hi'n gyd gadeirydd ar y rhwydwaith hwnnw o artistiaid, ysgrifenwyr, myfyrwyr ac athrawon sy'n ymwneud â pherfformio, celfyddyd byw, a gwaith rhyng-ddisgyblaethol. A hithau'n olygydd cynorthwyol i Performance Research, hi oedd yn gyfrifol am olygu'r rhifynnau ar Dwristiaeth ('On Tourism') ac ar Archifau ('On Archives and Archiving').

Tan yn ddiweddar roedd hi'n aelod o fwrdd cyfarwyddwyr PSi PERFORMANCE STUDIES international, sef cymdeithas fyd eang i ysgolheigion ac artistiaid sy'n gweithio ym maes perfformio. Hi fu gweinyddwr y corff rhwng 1998 a 2001, a hi drefnodd y bumed Gynhadledd Astudiaethau Perfformio '5th Performance Studies Conference'' yn Aberystwyth yn 1999, 'Here be Dragons'. Mae Heike'n hanu o'r Almaen, ac astudiodd lenyddiaeth yr Almaen, athroniaeth a cherddoleg ym Mhrifysgol Hambwrg. Rhwng 1986 a 1994 fu'n chwarae rhan yng ngwaith trefnu rhaglen theatr Kampnagelfabrik Hamburg, gan gynnwys pedair blynedd fel pennaeth y wasg a hysbysrwydd i Internationales Sommertheater Festival Hamburg. Mae'n byw yng Nghymru ers 1995.

Heike Roms yw un o sefydlwyr TRAWS - Y Grwp Ymchwil Rhyng-Golegol ar Berfformio yng Nghymru.

A research project devoted to uncovering and archiving the history of Performance Art in Wales
Prosiect ymchwil i ddadorchuddio ac archifo hanes Celf Perfformio yng Nghymru
advanced web statistics